Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Teams
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Tachwedd 2020
Amser:
09.30 -
12.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Angela Burns AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Richard Baker, Llywodraeth Cymru Judith Cole, Llywodraeth Cymru Ruth Conway, Llywodraeth Cymru Steve Davies, Llywodraeth Cymru Nicola Edwards, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Kevin Palmer, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Tim Buckle Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Owain Davies (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar Addysg a Llywodraeth Leol
2.1 Holodd aelodau’r Pwyllgor Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i COVID-19 ar yr effeithiau ar wasanaethau addysg a llywodraeth leol.
2.2 Cytunodd Tracey Burke i:
· anfon nodyn ar y ganran ddiweddaraf o ddysgwyr sy'n mynychu'r ysgol; a’r
· wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed i gynorthwyo dysgwyr o'r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ers ei llythyr ar 8 Medi 2020.
3 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
3.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.